Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Gwastadeddau Gwent


15 Dwyrain Llansantffraid Gwynllwg


15 ardal gymeriad Dwyrain Llansantffraid Gwynllwg: "tirwedd afreolaidd" gymhleth yn yr ardal arfordirol uwch. (Ffoto: GGAT St Brides CSmap)

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

Cefndir Hanesyddol

Mae'r dirwedd hon wedi ffurfio dros gyfnod hir. Mae'n debyg i bobl ddechrau symud i fyw yn yr ardaloedd arfordirol uwch eto yn niwedd yr unfed ganrif ar ddeg ac yn y ddeuddegfed ganrif. Amgaewyd a draeniwyd ardaloedd is i mewn i'r tir wedi hynny, yn y drydedd ganrif ar ddeg/y bedwaredd ganrif ar ddeg yn ôl pob tebyg. Adferwyd Glanfa Llansantffraid Gwynllwg yn y ddeunawfed ganrif.

Mae enw Cymraeg canoloesol Llansantffraid Gwynllwg yn dyddio o'r unfed ganrif ar bymtheg o leiaf.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Tirwedd amrywiol: canolbwynt anheddiad cynnar (gerllaw Eglwys Llansantffraid Gwynllwg), patrwm caeau afreolaidd o gaeau bach a ffyrdd dolennog ag olion gwastraff ymyl ffordd, aneddiadau gwasgaredig, morglawdd yn cynnwys wal a ddymchwelwyd, nodweddion draenio gan gynnwys cloddiau ffeniau, cefnennau ar arwyneb caeau (gafaelion gan mwyaf, ond hefyd enghreifftiau prin o "gefnen a rhych")

Mae'r dirwedd hon yn ymestyn dros dir uwch yr arfordir ym mhen dwyreiniol Gwynllwg. Mae'n uno ag ardal 16 i'r gorllewin, ond mae llinellau hen gloddiau ffeniau yn ei gwahanu oddi wrth ardal 21 i'r gogledd. Crëwyd Parc Tredegar (Ystad Dyffryn bellach) yn rhan ogleddol yr ardal gymeriad hon.

Mae hon yn dirwedd amrywiol iawn, yn debyg i ardal 1 (sef Yr As Fach/Allteuryn). Tua'r de i eglwys Llansantffraid Gwynllwg, mae'n debyg bod ardal hirgrwn a ddiffinnir ym mhatrwm y ffiniau caeau yn nodi canolbwynt yr anheddiad cynharaf. Mewn mannau eraill, mae'r caeau yn fach ac yn afreolaidd eu siâp ac mae'r ffyrdd yn ddolennog a bu iddynt ddigonedd o wastraff ymyl ffordd gynt (a nodir gan gaeau cul hir yn ymyl y ffyrdd). Nodweddir y patrwm anheddu gan aneddiadau gwasgaredig.

Dymchwelwyd morglawdd creiriol a arferai redeg ar hyd Ffos Wharf, er bod ychydig o olion poncen i'w gweld mewn mannau. Mae llinellau cloddiau ffeniau troellog yn nodi terfyn y dirwedd hon a amgaewyd/draeniwyd a'r hen rostiroedd agored yn y cefnffeniau is. Enghreifftiau ardderchog iawn o gefnennau arwyneb; gafaelion gan mwyaf, ond mae'n cynnwys rhai enghreifftiau o "gefnen a rhych" sydd fel arall yn brin iawn yng Ngwynllwg.

Mae naws gymharol goediog i rannau o'r dirwedd hon, a cheir nifer fawr o goed aeddfed yn y gwrychoedd. Mae gwrychoedd eraill fel arfer yn rhai prysglog.

Mae'r ardal wedi cadw ei chyfanrwydd a'i chydlyniant yn dda. Mae hon yn ardal o dirwedd sy'n nodweddiadol o'r tiroedd arfordirol uwch ledled y Gwastadeddau. Mae'r anheddiad cynnar yn Llansantffraid Gwynllwg, llinellau hen gloddiau ffeniau, a'r gwaith a wnaed yn y ddeunawfed ganrif i adfer Glanfa Llansantffraid Gwynllwg, yn elfennau o dirwedd gymhleth ac amrywiol, ac iddi werth grwp uchel. Ceir rhai ardaloedd ardderchog o gefnennau arwyneb, ac olion hen wastraff ymyl ffordd.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwlwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk